Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn dweud bod cefnogi pobl i aros yn iach yn allweddol i fynd i'r afael â rhai o'r heriau presennol sy'n wynebu'r system iechyd a gofal.
Mae darganfyddiadau newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dangos bod gan ferched oedran ysgol uwchradd gyfraddau llawer uwch o ddefnydd problemus hunangofnodedig o gyfryngau cymdeithasol na bechgyn.
Mae ymchwiliad parhaus i achosion o gryptosporidiwm mewn fferm yn y Bont-faen bellach wedi cadarnhau 74 o achosion.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwahodd cydweithwyr a phartneriaid ar draws GIG Cymru i gysylltu â'i Uned Gwyddor Ymddygiad i edrych ar sut y gall gwyddor ymddygiad helpu i wella eu gwaith. Caiff ei ategu gan fewnwelediadau o adroddiad blynyddol sydd newydd ei gyhoeddi gan yr uned.
Cynhaliwyd ail gyfarfod o'r Tîm Rheoli Achosion aml-asiantaeth heddiw (2 Mai) i asesu'r brigiad sy’n parhau o achosion o Gryptosporidiwm sy'n gysylltiedig ag ymweliadau â Siop Fferm y Bont-faen, Fferm Marlborough Grange, Cross Ways, y Bont-faen CF71 7LJ.
Mae chwe cham polisi allweddol, a allai helpu i wella iechyd a lles a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd i bobl Cymru, wedi'u hamlygu mewn adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol John Moores Lerpwl.
Mae rhieni a gwarcheidwaid yng Nghymru yn cael eu hannog i amddiffyn pobl ifanc rhag canserau sy’n gysylltiedig â HPV drwy sicrhau eu bod yn manteisio ar y cynnig i gael y brechlyn HPV yn yr ysgol.
Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu cyfres newydd o adnoddau sydd wedi’u cynllunio i helpu cyfathrebwyr iechyd y cyhoedd i wneud y gorau o effaith eu gwaith gan ddefnyddio gwyddor ymddygiad.
Gyda’r Pasg yn prysur agosáu a llawer o deuluoedd yn cynllunio ymweliadau â ffermydd a sŵau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa ymwelwyr o’r peryglon iechyd posibl sy’n gysylltiedig â chyswllt ag anifeiliaid a sut i gadw’n ddiogel.
Nod dadansoddiad newydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw helpu gweithwyr iechyd proffesiynol a llunwyr polisi i ganolbwyntio eu hymdrechion ar leihau ysmygu.