Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r adroddiad o Modiwl 2 yr Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19. Mae parhau i ddysgu o'n profiad o'r pandemig yn hanfodol i wella sut rydym yn diogelu iechyd a lles ein poblogaeth yn y dyfodol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i ddylunio, cynllunio a chreu lleoedd sy'n galluogi pobl i fyw bywydau iachach a hapusach.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau yn ardal Trefynwy yn ystod y llifogydd dinistriol a achoswyd gan Storm Claudia. Mae risg sylweddol i iechyd y cyhoedd yn ystod y broses lanhau ar ôl y llifogydd, felly mae'n bwysig i bobl gymryd rhagofalon er mwyn osgoi salwch pellach.
Mae'r adroddiadau cyntaf ar effeithiau gwres ar iechyd a gyhoeddwyd yng Nghymru yn dangos bod gan 'ddigwyddiadau gwres' fel tonnau gwres, nosweithiau poeth, gwres cymedrol a gwres cynyddol gysylltiadau cryf â mwy o afiachedd a marwolaethau
Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad cyflym newydd o’r dystiolaeth er mwyn gwella gofal brys a helpu i leddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru.
Maen nhw'n dweud bod pethau da yn dod mewn trioedd, a gall cyflogwyr yng Nghymru nawr elwa ar dri chynnyrch cyffrous newydd ac am ddim sydd wedi'u cynllunio i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe wedi cydweithio i lansio menter arloesol sydd â’r nod o drawsnewid y defnydd o ddata iechyd cyhoeddus i lywio prosesau gwneud penderfyniadau, ymchwil a pholisi yng Nghymru.
Mae ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu mewnwelediadau allweddol i sut y gellir cefnogi pobl â diabetes Math 2 yng Nghymru yn well i fyw'n dda am hirach gyda'r cyflwr.
Mae adroddiad ymchwil newydd wedi canfod bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn cynnig cyfle allweddol i sicrhau bod y system gynllunio yn cefnogi iechyd a llesiant pobl a chymunedau ledled Cymru.
Mae data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos gostyngiad o 20 y cant mewn achosion newydd o HIV yng Nghymru y llynedd. Ar yr un pryd, mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen wedi cael eu profi am HIV yng Nghymru, ac mae presgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth ataliol ar eu lefelau uchaf ers iddi gael ei gyflwyno.