Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Adolygiad o Effeithiau Crychdonni Cymorth Gwyddor Ymddygiad

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi defnyddio Mapio Effeithiau Crychdonni Realaidd i archwilio cefnogaeth gwyddor ymddygiad ddiweddar ar draws y system iechyd cyhoeddus.

Arolwg yn datgelu dirywiad mewn iechyd corfforol a meddyliol yng Nghymru

Er i dros hanner y bobl yng Nghymru roi blaenoriaeth uchel i ofalu am eu hiechyd, mae llawer yn profi dirywiad yn eu llesiant corfforol a meddyliol, yn ôl yr arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Astudiaeth Newydd yn Amlygu Effaith Niweidiol yn ystod Plentyndod a Phrofiadau Ysgol ar Iechyd Oedolion

Mae astudiaeth newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BMC Public Health , wedi canfod bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a phrofiadau ysgol negyddol yn cynyddu’r risg o iechyd meddwl a lles gwaeth pan fyddant yn oedolion. Mae’r canfyddiadau’n tanlinellu’r angen am ddulliau wedi’u llywio gan drawma mewn ysgolion i gefnogi plant sy’n profi adfyd gartref.

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lasio astudiaeth ar brofiadau ac iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd

Mae'r astudiaeth, a gynhaliwyd ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol John Moores Lerpwl, yn ceisio gwella dealltwriaeth o effeithiau trallod yn ddiweddarach mewn bywyd.

Golchi dwylo: Amddiffyniad Allweddol Rhag Firysau'r Gaeaf

Mae’n bosibl bod y dyddiau oer, tywyll yn dod yn gynhesach ac yn ysgafnach yn raddol, ond gall firysau’r gaeaf fel annwyd, ffliw a COVID-19 ddifetha ein cynlluniau o hyd.

Cyn Geni Cymru yn parhau i gefnogi dewisiadau gwybodus i famau sy'n disgwyl

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol diweddaraf Sgrinio Cyn Geni Cymru, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2024, gan dynnu sylw at rôl sgrinio cyn-enedigol o ran darparu gwybodaeth hanfodol i famau beichiog am eu hiechyd hwy ac iechyd eu baban. 

Annog merched beichiog i fod yn ofalus yn ystod y tymor ŵyna

Mae merched beichiog yng Nghymru yn cael eu hatgoffa i osgoi dod i gysylltiad ag anifeiliaid sy’n rhoi genedigaeth, sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar, neu sydd wedi erthylu. Mae’r cyngor hwn, sydd hefyd yn berthnasol i ferched nad ydynt yn gwybod eto eu bod yn feichiog, yn arbennig o berthnasol yn ystod y tymor ŵyna yng Nghymru.

Ceisio barn ar safonau newydd ar gyfer iechyd a lles mewn ysgolion

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu set newydd o safonau ar gyfer ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a llesiant mewn ysgolion yng Nghymru. Rydym bellach ar gam olaf yr ymgysylltu a hoffem glywed barn partneriaid allweddol (gan gynnwys ysgolion) ar y cynigion.

Cynnydd mewn marwolaethau yn ymwneud â chocên am y bumed flwyddyn

Mae’r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datgelu bod dros 1 o bob 4 o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau a gofrestrwyd yn 2023 yn ymwneud â chocên.

Mae cyfraddau pydredd dannedd ymhlith plant 12 oed yng Nghymru yn gostwng, ond mae heriau o hyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arbenigwyr iechyd deintyddol wedi croesawu canfyddiadau Rhaglen Epidemiolegol Deintyddol GIG Cymru, sy’n dangos gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau pydredd dannedd ymhlith plant 12 oed yng Nghymru.