Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Gallai ffliw gyrraedd lefelau uchel erbyn y Nadolig. Nawr yw'r amser i gael eich brechlyn ffliw am ddim.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod y tymor ffliw yng Nghymru wedi dechrau'n gynharach na'r arfer eleni. Mae'n golygu y gall lefelau ffliw yn y gymuned gyrraedd uchafbwynt o amgylch y Nadolig. Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn annog y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig nawr, er mwyn helpu i amddiffyn eu hunain ac eraill rhag mynd yn ddifrifol wael gyda ffliw y Nadolig hwn.

A yw gweithio gartref yn dda i'ch iechyd?

Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi er y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi parhau i weithio gartref, roedd bron hanner y rhai a holwyd hefyd wedi nodi llesiant gwaeth a theimladau o unigrwydd.  

Lansio panel 'Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus'

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn recriwtio ar gyfer panel ymgysylltu â'r cyhoedd i roi'r cyfle i bobl yng Nghymru i ddweud eu dweud am faterion sy'n effeithio ar iechyd a llesiant eu hunain a'u cymunedau.

Haint iGAS yn parhau'n brin, yn ol arbenigwyr iechyd cyhoeddus

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa rhieni bod achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau'n brin yng Nghymru, a bod gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd.

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar achos wedi'i gadarnhau o mpox

Bydd y stori newyddion hon yn cael ei diweddaru ar dydd Iau.

Datganiad ynghylch Ysgol Gynradd Victoria

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chyngor Bro Morgannwg yn dilyn marwolaeth disgybl yn Ysgol Gynradd Victoria, Penarth.

O straeon i bolisïau

Sara Elias, Uwch-swyddog Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n esbonio pam mae angen i ni weithio'n wahanol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.  

Data newydd yn disgrifio darlun cymhleth o gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru

Mae data newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgrifio darlun cymhleth o gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, sy'n arwain at fwy o dderbyniadau i'r ysbyty ar gyfer cyflyrau penodol i alcohol a mwy o farwolaethau o ddefnydd problemus o alcohol a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.  

Pa dymheredd dan do sydd orau i iechyd?

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau y gall dod i gysylltiad â thymereddau oer dan do fod yn wael i'n hiechyd ac effeithio ar amrywiaeth eang o ganlyniadau iechyd.

Ymarfer sgrinio Tonypandy wedi'i gwblhau: nid oes angen unrhyw gamau pellach

Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gadarnhau, yn dilyn yr ymarfer sgrinio twbercwlosis (TB) diweddar a gynhaliwyd yn nhafarn y Welcome Inn, Tonypandy, fod y dystiolaeth gychwynnol yn awgrymu nad oes angen cymryd camau pellach yn y dafarn.