Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi deng mlynedd o sgrinio ymlediadau aortig abdomenol yng Nghymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog dynion 65 oed i ystyried manteisio ar gynnig sgrinio ymlediadau aortig abdomenol, wrth iddo nodi dengmlwyddiant ei raglen sgrinio ymlediadau. Canfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod ymwybyddiaeth isel o'r rhaglen, ac nid oedd 77 y cant o'r dynion a ymatebodd yn ymwybodol o'r rhaglen hon a allai achub bywydau.

Mae mwyafrif y bobl yng Nghymru yn cefnogi ailddyrannu ffyrdd lleol i wella cerdded a beicio

Mae arolwg diweddaraf panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi ailddyrannu ffyrdd yn eu hardal leol ar gyfer cerdded (75 y cant) a beicio (68 y cant). Mae creu amgylchedd egnïol yn hanfodol i gynorthwyo pobl i fod yn gorfforol egnïol. 

Gweledigaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer dyfodol iachach i Gymru

Fel sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio tuag at Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach a lle mae gan bawb yng Nghymru fynediad teg a chyfartal at y pethau sy'n arwain at iechyd a llesiant da.  

Mae cyfran y plant â phwysau iach yn debyg i lefelau cyn y pandemig ond mae materion yn parhau

Mae nifer y plant 4-5 oed a oedd yn bwysau iach yn debyg ar y cyfan i'r lefelau cyn y pandemig, yn y chwe bwrdd iechyd sydd wedi cyflwyno data i Raglen Mesur Plant 2021-22 a gyhoeddir heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae adroddiadau sganio'r gorwelion yn darparu dysgu rhyngwladol hanfodol er budd Iechyd yng Nghymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei drydydd Calendr Cryno o Adroddiadau Sganio'r Gorwelion Rhyngwladol.  

Cydweithredu rhyngwladol ar iechyd yn arwain at fuddiannau i bawb

Mae'r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (y Ganolfan) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw am wneud rhagor i gynorthwyo, cryfhau a hyrwyddo gweithgarwch iechyd rhyngwladol a byd-eang, er budd pobl yng Nghymru a thu hwnt.

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi sicrwydd i rieni ar ôl ymchwilio i glwstwr o achosion o enterofeirws

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi sicrwydd i rieni ar ôl i nifer bach iawn o achosion o gymhlethdod prin o enterofeirws achosi myocarditis mewn babanod ifanc iawn.

Ydych chi'n defnyddio ein data a'n gwybodaeth? Llenwch ein harolwg i ddefnyddwyr

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ei arolwg blynyddol ar ei allbynnau data a gwybodaeth.

Cyhoeddi data newydd ar ganlyniadau iechyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi data newydd ar ganlyniadau iechyd cyhoeddus.

Mae angen mwy o ymwybyddiaeth i gymryd y cam N.E.S.A. i drin stroc ac achub bywydau.

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn annog pobl i ymgyfarwyddo â symptomau strôc, un o'r achosion mwyaf o farwolaeth yng Nghymru. Mae triniaeth feddygol gynnar ar gyfer strôc nid yn unig yn achub bywydau, mae'n cynyddu'r cyfle o wella hefyd.