Mae ymchwilwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi cyfres o friffiau i drafod beth sydd angen ei wneud i greu tai iachach yng Nghymru.
Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd a llesiant ledled Cymru.
Mae arbenigwyr iechyd yng Nghymru yn pryderu am nifer y sylweddau sy'n cael eu prynu o “fferyllfeydd ar-lein” fel y'u gelwir yn y gred eu bod yn gynhyrchion fferyllol cyfreithlon.
Mae adroddiad blynyddol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ar iechyd rhywiol wedi dangos mwy o fynediad at brofion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a manteisio ar y profion hynny.
Mae dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canfod y gallai'r telerau sy'n caniatáu i'r DU ymuno â bloc masnachu mawr yn ardal Cefnfor India a'r Môr Tawel ei gwneud yn fwy anodd i Gymru gymryd camau gweithredu iechyd cyhoeddus cryf yn y dyfodol i ddiogelu iechyd a llesiant.
Fel rhan o'r dathliadau ar gyfer pen-blwydd y GIG yn 75 oed, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhyddhau fideo cyffrous newydd; mae hwn yn amlygu cerrig milltir allweddol yn natblygiad y sefydliad, o'r adeg y cafodd ei sefydlu yn ei ffurf bresennol yn 2009 - un o'r 12 corff cyhoeddus sydd bellach yn rhan o GIG Cymru.
Mae'n bleser gan Uned Gwyddor Ymddygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi lansio dau offeryn gwyddor ymddygiad newydd sy'n seiliedig ar PDF i helpu ymarferwyr a llunwyr polisi i ddeall ymddygiad dynol yn well a dylanwadu arno.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Dinas Casnewydd yn ymchwilio i un achos o dwbercwlosis (TB) mewn unigolyn sy'n gysylltiedig ag Ysgol John Frost yng Nghasnewydd.
Bydd datblygiad diweddar porth ar-lein ‘Llygad Gwrthfiotig’ yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru i gael data mwy lleol ac amserol ar y sefyllfa ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt.
Yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC) yn 2016, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithredu newid i'r rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig yng Nghymru.