O 1 Hydref 2022, mae staff Timau Iechyd Cyhoeddus lleol bellach yn cael eu cyflogi gan y Byrddau Iechyd perthnasol.
Mae cyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi golygu bod ap sydd wedi ei gynllunio i helpu defnyddwyr PrEP i gymryd eu meddyginiaeth yn fwy effeithiol, bellach ar gael ar Android ac mewn sawl iaith, gan gynnwys y Gymraeg.
Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn disgwyl tymor ffliw sylweddol y gaeaf hwn am y tro cyntaf ers y pandemig. Mae pryderon y gall ddechrau'n gynharach eleni ac effeithio ar fwy o bobl.
Mae arolwg cyhoeddus cenedlaethol a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bangor Prifysgol wedi datgelu bod dros dri chwarter o drigolion Cymru yn credu y bydd newid hinsawdd yn niweidio iechyd meddwl ac yn cynyddu costau gwresogi cartref a phrynu bwyd.
Mae adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn casglu bod pandemig y coronafeirws wedi gwthio clefydau heintus i frig yr agenda ar gyfer llywodraethau ledled y byd ac wedi dylanwadu'n sylweddol ar sut y mae'r DU, ac felly Cymru yn cydweithio â phartneriaid rhyngwladol ar glefydau heintus.
“Ar ran ein hunain ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn mynegi ein tristwch dwfn ac ymdeimlad o golled wirioneddol yn sgil y newyddion bod EM y Frenhines Elizabeth wedi marw.
Mae gwerthusiad o wasanaeth yn yr ysbyty sy'n unigryw i Gymru wedi canfod ei fod yn effeithiol wrth ddarparu mwy o gymorth i gleifion agored i niwed sy'n mynd i'r ysbyty gydag anafiadau cysylltiedig â thrais.
Mae Gwelliant Cymru wrth eu boddau i lansio cyfres newydd sbon o bodlediadau, sef Trafod Gwelliant, sy’n ofod diogel i drafod popeth yn ymwneud â gwelliant.
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn tynnu sylw at y gwahaniaethau a'r synergedd rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol, gweithgareddau llesiant ac asedau cymunedol; a phresgripsiynu cymdeithasol.