Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Mesur Plant Cymru

Mae Rhaglen Mesur Plant Cymru yn mesur uchder a phwysau plant dosbarth derbyn.

Rydym am ddysgu sut mae plant yng Nghymru yn tyfu fel y gall GIG Cymru gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd yn well.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am gydlynu y Rhaglen Mesur Plant ac mae pob bwrdd iechyd Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen.

Canlyniadau Diweddaraf

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r data a gasglwyd ledled Cymru yn ystod blwyddyn ysgol 2024/25.

  • Cyfranogiad uchaf a gofnodwyd: Yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25, mesurwyd 28,512 o blant gan arwain at gyfranogiad o 94.7%. Dyma’r cyfranogiad Cymru gyfan uchaf ers i’r rhaglen ddechrau yn 2013/14.
  • Y cyffredinrwydd uchaf o blant â gordewdra a gofnodwyd: Yng Nghymru, roedd cyffredinrwydd plant sy’n byw gyda gordewdra yn 12.8%. Hwn oedd y cyffredinrwydd Cymru gyfan uchaf a gofnodwyd ers i’r rhaglen ddechrau.
  • Mae dros chwarter y plant yng Nghymru yn byw gyda gorbwysau neu gordewdra: Roedd dros chwarter y plant yng Nghymru yn byw gyda gorbwysau neu gordewdra (27.3%). Hwn oedd y cyffredinrwydd Cymru gyfan uchaf a gofnodwyd ers i’r rhaglen ddechrau.
  • Cyffredinrwydd plant â gordewdra yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU: Roedd cyffredinrwydd plant â gordewdra yng Nghymru (12.8%) yn uwch na’r hyn a adroddwyd ar gyfer Lloegr (10.5%) ac ar gyfer yr Alban (11.8%). 
  • Cyffredinrwydd gordewdra yn uwch lle mae amddifadedd yn fwy: Roedd cyffredinrwydd plant â gordewdra tua 75% yn uwch yn yr un rhan o bump mwyaf difreintiedig (15.6%) o’i gymharu â’r lleiaf difreintiedig (8.9%). Roedd plant sy’n byw yn y pumed lleiaf difreintiedig yn llai tebygol o fyw gyda gorbwysau neu ordewdra o’i gymharu â phob un o’r pumedau eraill o amddifadedd.
  • Cyffredinrwydd tan bwysau yn uwch mewn bechgyn o’i gymharu â merched: Roedd bechgyn yn fwy tebygol o fod dan bwysau o’i gymharu â merched, gyda chyffredinrwydd bechgyn sy’n byw gyda than bwysau yn 1.2% o’i gymharu â 0.6% ar gyfer merched.