Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Cyhoeddi agenda a phapurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd a gynhelir Ddydd Iau 25 Gorffennaf 2019

Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd y mae croeso i'r cyhoedd, gan gynnwys aelodau o'r staff, eu mynychu.  

Cyhoeddi papurau'r Pwyllgor Gwybodaeth ac Ymchwil

Cynhelir cyfarfod y Pwyllgor Gwybodaeth ac Ymchwil ddydd Mercher 24 Gorffennaf 2019.

Arolwg Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Agweddau Rhieni a Phobl Ifanc at Imiwneiddio

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi comisiynu BMG Research i gynnal arolwg ar farn a phrofiadau rhieni a phobl ifanc. Bydd yr arolwg yn helpu fel sail i gynllunio gwasanaethau a rhaglenni.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2019 - Dim ond wythnos i fynd

Dim ond wythnos sydd i fynd tan ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Iau 25 Gorffennaf yng Nghasnewydd. 

Trallod sylweddol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â risg uwch o ddigartrefedd

Mae pobl yng Nghymru sydd wedi dioddef trallod sylweddol yn ystod plentyndod 16 gwaith yn fwy tebygol na'r boblogaeth gyffredinol o brofi digartrefedd, yn ôl astudiaeth newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyfle olaf: Cyflwynwch crynodeb ar gyfer Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae gennych llai na pythefnos i cyflwyno crynodeb i helpu siapo y rhaglen.

Torfeydd ar y strydoedd i roi croeso brenhinol

Aeth trigolion o bob oed allan i strydoedd Tredegar Newydd i roi croeso arbennig i’w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw wythnos diwethaf.

Adroddiad newydd yn dangos arafu o ran tueddiadau goroesi canser yng Nghymru

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod y cynnydd hirdymor o ran goroesi canser yn arafu. 

Archebwch eich lle yng Nghynhadledd Genedlaethol Gofal Sylfaenol 2019

Bellach, gellir cofrestru ar gyfer y 4edd Gynhadledd Genedlaethol Gofal Sylfaenol a gynhelir yn y Ganolfan Gynadledda Genedlaethol yng Nghasnewydd ddydd Iau 7 Tachwedd 2019.

Brechlyn Feirws Papiloma Dynol i fechgyn i atal canser yng Nghymru

O flwyddyn academaidd 2019/20 ymlaen, caiff bechgyn 12-13 oed gynnig y brechlyn Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn yr ysgol ynghyd â merched fel rhan o'r rhaglen HPV bresennol.