Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Arolwg yn datgelu bod iechyd meddwl a chorfforol pobl wedi dirywio yn ystod y pandemig

Mewn canlyniadau o’r arolwg cenedlaethol diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, roedd 42 y cant o'r bobl a holwyd yn credu bod eu hiechyd meddwl yn waeth nawr nag ydoedd cyn y pandemig.

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn penodi Cyfarwyddwr Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, wedi penodi Iain Bell yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus

Dysgu o'r ymateb cymunedol i COVID-19 yng Nghymru

Lansio arolwg cenedlaethol i glywed gan wirfoddolwyr a'r rhai sydd wedi mynd ati yn anffurfiol i roi o’u hamser i helpu eu cymunedau i ymateb i COVID-19.

Newidiadau i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ym mis Mawrth, gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddau gyhoeddiad ynghylch aelodaeth Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bae Abertawe i gefnogi treial newydd yn y DU ar gyfer brechlyn COVID-19

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y treial clinigol diweddaraf sy'n astudio brechlyn yn erbyn COVID-19.

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar bryderon diogelwch gyda brechlyn COVID-19 AstraZeneca

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyngor gwyddonol arbenigol grwpiau arbenigol y DU bod manteision brechu gyda'r holl frechlynnau COVID-19 sy'n cael eu defnyddio yn parhau i fod yn drech na risgiau COVID-19.

Newidiadau arfaethedig i'r ffordd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am y Coronafeirws

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud rhai newidiadau i'r ffordd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan a'n dangosfwrdd data.

Adroddiad newydd yn canfod bod cynllunio ymlaen llaw yn allweddol i lwyddiant hunanynysu

Mae adroddiad newydd gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi canfod bod pobl sydd wedi nodi cymorth digonol a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer cyfnod posibl o hunanynysu, yn teimlo llai o her gan y posibilrwydd ac yn fwy tebygol o lwyddo.   

Rhoi Tegwch Iechyd wrth wraidd adfer ar ôl Coronafeirws ar gyfer adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru 

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (18 Mawrth 2021) yn galw am fwy o bwyslais ar degwch iechyd – sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i fod yn iach – mewn ymateb i'r Coronafeirws ac adfer ohono.  

Astudiaeth newydd yn canfod bod trosglwyddiad Coronafeirws ar ei uchaf mewn aelwydydd a lletygarwch

Wedi’i chyhoeddi heddiw (15 Mawrth, 2021), mae astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n edrych ar y dystiolaeth o brofi torfol ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon, yn awgrymu mai aelwydydd yw’r ffynhonnell fwyaf sylweddol o haint, ac mae gweithio yn y sector lletygarwch neu ymweld â’r dafarn hefyd yn risgiau sylweddol.