Mae swyddogion iechyd cyhoeddus yn atgoffa rhieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu'n llawn â dau ddos o'r brechlyn MMR, wrth i nifer yr achosion yn y brigiad yng Ngwent gynyddu i 17.
Canser y croen nad yw’n felanoma yw’r math mwyaf cyffredin o ganser a gafodd ei ddiagnosio yng Nghymru yn 2020 er gwaethaf gostyngiad o 17 y cant yn y nifer a gafodd ddiagnosis ers 2019 yn gysylltiedig â chyfyngiadau yn ystod y pandemig.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod pobl leol yn bryderus iawn am arogleuon o amgylch y safle tirlenwi yn Withyhedge. Rydym yn parhau i alw am ddarparu gwell data ansawdd aer, i'n galluogi i wneud asesiad risg iechyd o'r safle. Mae hyn yn ychwanegol at ein hargymhelliad gwreiddiol i gymryd camau gweithredu brys er mwyn mynd i'r afael â ffynhonnell yr arogleuon.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhyddhau ei ystadegau Rhaglen Mesur Plant swyddogol diweddaraf sy’n cwmpasu’r cyfnod 2022-23.
Wrth i'r adroddiad Ymchwiliad Gwaed Heintiedig gael ei gyhoeddi, hoffem atgoffa pobl bod gwasanaeth profi gartref am ddim yng Nghymru y gallwch ei ddefnyddio i brofi am feirysau a gludir yn y gwaed.
Bydd angen i tua 2,000 yn llai o fenywod yng Nghymru gael pigiad gwrth-D yn ystod eu beichiogrwydd, diolch i raglen brofi DNA di-gell y ffetws newydd sy'n cael ei lansio heddiw.
Mae un o astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru a fu'n archwilio ymyriadau rhagsefydlu wedi nodi bod angen rhagor o ymchwil i ddeall eu heffeithiolrwydd yn llawn ar gyfer gwella iechyd cleifion wrth aros am lawdriniaeth.
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus wedi croesawu Cynllun Gweithredu Cenedlaethol pum mlynedd newydd i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn canolbwyntio ei ymchwil ar chwe maes blaenoriaeth, i gyd-fynd â'r strategaeth hirdymor a'r strategaeth Ymchwil a Gwerthuso a lansiodd y llynedd.
Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, a gyhoeddwyd heddiw yn BMJ Open [LINK], yn dangos y gall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) effeithio ar ganfyddiadau pobl o’u gallu i ymdopi yn ystod yr argyfwng costau byw.